Gwennie
GWYNNACH oedd bywyd Gwennie - na'r ewyn
Chwaraea uwch dyfnlli,
Neu'r annwyl flodau rheini
Oedd ar ei harch dderw hi.
Heb ball caiff rodio bellach - hyd heulog
Ardaloedd di-rwgnach;
Mae nef wen yn amgenach
Na helynt byd i blant bach.
Jennie
Un ddilychwin oedd Jennie, - un ddiwyd
Addawol, lawn tlysni;
A gwanwyn gwyrdd digyni
Heb liw nos oedd oi blaen hi.
Ond Iesu'r ffrynd dewisol - a'i galwodd
I'r golau tragwyddol;
Mwy o'r ddaear ar ei hôl
Nofia hiraeth anfarwol.
|
Marw un fach
Gwenodd uwch ei theganau - am ennyd
Mewn mwyniant di-groesau;
Heddiw ceir uwch ei bedd cau
Efengyl chwerwaf angau.
Gw^r Caredig
Un hynaws roed i huno,- a heddiw
Gwahoddaf heb wrido
Awelon haf i wylo
Uwch ei wyn lwch annwyl o.
Tegid Wyn
Yntau fu farw yn blentyn, - ond yn awr
Hyd y nef ddiderfyn
Llawer angel gwalltfelyn
Oeda i weld Tegid Wyn. |