| [an error occurred while processing this directive] |
ADFEILION HEN EGLWYS
|
|
Ei hudol furiau lwydynt;- alawon
Ni chlywir ohonynt
Namyn dyfngor y corwynt
Ac isel gri gweddir gwynt |
|
Y NADOLIG
|
|
DEG w^yl, dan las dy gelyn - una gwlad
Yn swyn gwledd a thelyn;
A hyd Fethlem dyry dremyn
Ar y Duw Sanct yn ei grud syn. |
|
NOS O RAGFYR
|
|
HENO, cwsg, dlws ieuanc oed; oer yw gwaedd
Arwr gwynt or dergoed;
Cwsg dan nen fy mwth henoed,
Cwsg, cwsg nes tawela'r coed.
Heno clyw gri aflonydd - o leddf ing
Ymladdfeydd fforestydd;
Huawdl sain y dymestl sydd
Fel alltud ar foel elltydd.
Hyd yr êl heibior helynt
Yn dy gwsg cei wrandaw gwynt
Gwyna tros faes a gwaneg
Ail mun friw ar lomwaun freg |
|
|