LLYN RHUTHLYN
|
|
AIL i gyfaredd telyn - rhyw unig
Riannon gwallt melyn
Ar nos o haf rhwng bryniau syn
Yw hiraethlais tonnau'r Rhuthlyn. |
|
Y MOELWYN
|
|
ER ei drum, garw'i dremynt - yw erioed,
A'i rug iddo'n emrynt;
Iach oror praidd a cherrynt
A'i greigiau'n organau'r gwynt. |
|
GWERSYLL LITHERLAND
|
|
GWEL wastad Hutiau'n glwstwr - a bechgyn
Bochgoch yn llawn dwndwr;
O'u gweld fe ddywed pob gw^r:
Dyma aelwyd y milwr. |
|
YSTORM GAREDIG
|
|
OD yw 'mhechod yn codi - i'm hwyneb
Fel mynych drueni,
Gwelaf yr Iawn ar Galfari
Yn storom o dosturi. |
|
LLWYBRAU'R DRIN
|
|
EWROB sy acw'r awran - dan ei gwaed
Yn y gwynt yn griddfan;
Maluri'r ei themlau eirian
Ai' herwau teg syn galendr tân. |
|
PRIODAS DDYDD Y RHYFEL
|
|
ER dur wae y brwydro erch - hwyliasant
I lysoedd gwyn traserch;
Yno mae pob rhyw lannerch
Yn rosyns aur a swyn serch! |
|