Search billions of records on Ancestry.com
   
[an error occurred while processing this directive]

PLANT TRAWSFYNYDD, 1915

PE doech yn ôl i fro eich cydnabod,
Chwi welech fel cynt,
Eira fel llynges dlos o wylanod
A'r lanw y gwynt.

Gwelech lwydni y gaeaf diwenau
Ar fynydd a rhos;
Clywech y corwynt fel storm o dduwiau
Yng nghanol y nos.

Yma mae celloedd gwag dan y ddrycin
Yn fud a di fri,
Ar gwynt yn chwilio pob llofft a chegin
Amdanoch chwi.

Pell ywr ieuenctid llawen eu dwndwr
Fu'n cerdded y fro;
Chydig syn mynd at y Bont a'r Merddwr
Yn awr ar eu tro.

Holi amdanoch â llais clwyfedig
Mae'r ardal i gyd;
Chwithau ymhell fel dail gwasgaredig
Ar chwâl tros y byd.


Rhai ohonoch sy merw y brwydrau
Yn y rhyfel draw,
A sw^n diorffwys myrdd o fagnelau
O'ch cylch yn ddi-daw.

Eraill syn crwydro gwledydd pellennig
Yn alltud eu hynt
Ac yn eu calon atgo Nadolig
Yr hen ardal gynt.

Ple bynnag yr ydych, blant Trawsfynydd,
Ar ledled y byd,
Gartre mae rhywrai ar eu haelwydydd
Yn eich cofio i gyd.

Ni all pellterau eich gyrru yn ango,
Blant y bryniau glân;
Calon wrth galon syn aros eto,
Er ar wahân.

A phan ddaw gw^yl y Nadolig heibio
I'r ddaear i gyd,
Blant Trawsfynydd, tan arfau neu beidio,
Gwyn fo eich byd.

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History