Search billions of records on Ancestry.com
   
[an error occurred while processing this directive]

Y GWAHODD

"TYRD gyda mi dros y tonnau,"
Medd llais or ystorom bell,
"Feth boenaf di â rhosynnau
A golau y tiroedd maith peIl, -
A chwerthin ynysoedd sydd well.

"Os tyr dy long ar y cefnfor
Ba waeth, bid lawen dy fron;
Mae plasau emrallt fy ngoror
Yn nyfnder beryl y don,-
Dan lif wylofus y don;

"Os cludir dy gorff tua'r glannau
Yn llaith dan ewynnau gwyn,
Caiff dysbryd drigo'r dyfnderau
Fel lloer yn nyfnderau'r llyn,-
Fel paladr haul yn y llyn.

"Cyfod dy hwyliau, a dilyn;
Nac oeda mewn byd mor ffôl;
Cei forio am haf brigfelyn
Ath hirwallt ar chwyf oth ôl,-
Fel baner ddu ar dy ôl.

"Gwê lewych y wenfro ddisglair
Tros lasdon Iwerydd erch,
Lle'r oeda rhos rhwng y glaswair
Fel mwynion ddeialau serch -
Fel dedwydd offeiriaid serch"

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History